Alaw Fflur Jones - Croeso i fy mlog! Welcome to my blog!



  Alaw Fflur Jones


Croeso i fy mlog!
Welcome to my blog!


Dyma ble fydda i yn sôn am fy mhrofiadau o fod yn aelod o Fudiad y Clwb Ffermwyr Ifanc a hynny tra’n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth yn y ddinas fawr ym Mhrifysgol Caerdydd! Dw’i wrth fy modd yn byw bywyd coleg, ond serch holl egni a bwrlwm y ddinas mae fy nghalon yn ddwfn yng Ngheredigion. Ie wir, merch deunaw oed o Geredigion ydw i, ac aelod ufudd o Glwb Ffermwyr Ifanc Felinfach. Ers ymaelodi â’r mudiad saith mlynedd yn ôl, dwi wirioneddol wedi mwynhau pob eiliad, ac rwyf wedi bod yn ffodus iawn o gael cyfle i gystadlu mewn trawsdoriad eang o gystadlaethau a derbyn nifer o brofiadau gwerth chweil.
Cyn symud i Gaerdydd ym mis Medi, llwyddais i fynychu’r holl gyfarfodydd blynyddol ar lefel Clwb yn Felinfach, Sir yng Ngheredigion ac ar lefel Cymru! Ar ôl digon o drafod, cynnig ac eilio, mae’n argyhoeddi i fod yn flwyddyn lewyrchus arall i’r mudiad gyda swyddogion brwdfyrdig a theilwng yn derbyn y swyddi! Wedi’r holl gyfarfodydd, daeth yn ei sgil ddigon o gymdeithasu wrth gwrs gyda’r Gig ola’r hâf yng Ngheredigion a Dawns y Cadeirydd ar lefel Cymru. Dyna sy’n wych am fudiad y CFfI, mae’r calendr yn amrywio o ambell gyfarfod er mwyn cadw trefn, i gymaint o gyfleoedd cymdeithasu i lwythi o gystadlu ac hyd yn oed teithiau bythgofiadwy i fynd dramor! Wrth sôn am gystadlu, serch fy mod yn y Coleg, rwyf yn parhau i gadw mewn cysylltiad â mudiad y CFfI ac rwyf yn edrych ymlaen yn arw at ymuno â chriw Felinfach ar ddiwrnod Eisteddfod CFfI Ceredigion! Dwi ar hyn o bryd yn ysgrifennu ar gyfer ambell gystadleuaeth yn yr adran Gwaith Catref ac yn dysgu darnau ar gyfer y cystadlaethau llwyfan. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gwbwlhau fy nyletswyddau fel Aelod Iau Ceredigion yn yr Eisteddfod wrth fod yn lysgenhades i’r mudiad a gobeithio gwneud hynny yn effeithiol drwy arwain cystadlaethau yn ystod y dydd ac wrth gwrs helpu mewn unrhyw modd posibl!
Wel dyna ni wrtha i tan mis nesa’
Hwyl,
Alaw.

This is where I will be talking about my experiences of being a member of the YFC movement while studying Welsh and Journalism in the big city of Cardiff!  I love living college life, but despite all the energy and vibrancy of the city, my heart is still in Ceredigion.
I’m an eighteen year old girl from Ceredigion, and faithful member of Felinfach Young Farmers Club. Since joining the organisation seven years ago, I have really enjoyed every second, and have been very fortunate to have had the opportunity to compete in a wide cross section of competitions and have had numerous rewarding experiences.
Before moving to Cardiff in September, I was able to attend the AGM meeting of Felinfach YFC, my county AGM in Ceredigion, as well the Wales YFC AGM! After much deliberation and many proposals and seconders, it was great to see the start of another prosperous year for the organisation with enthusiastic and worthy officers taking up posts!
After all the meetings, there was of course time for socialising too with ‘Gig Ola’r Ha’’ in Ceredigion and the Chairman’s Ball at a Wales level. That’s what’s great about this unique organisation, which is the YFC; the calendar ranges from a few meetings so that everyone has their say, to so many socialising opportunities and numerous competitions, as well as unforgettable trips abroad! When it comes to competing, despite being at college, I continue to stay in touch with the YFC movement and I’m really looking forward to joining the Felinfach crew on Ceredigion YFC Eisteddfod day! I am currently writing for a few competitions in the homework section and learning pieces for the stage.
I also look forward to fulfilling my duties as Ceredigion Junior Member at the Eisteddfod by being an ambassador for the organisation, and hoping to do so effectively by leading daytime competitions and of course helping in any way possible!
Well that’s me until next month!
See you,
Alaw




Comments